Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir o dan Reol Sefydlog 21.7
14 Mawrth 2022
SL(6)165 – Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng (Ymgymerwyr Dwr a Charthffosiaeth a Thrwyddedeion Cyflenwi Dwr) 2022
Gweithdrefn: Dim Gweithdrefn
Mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru, mewn perthynas ag ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth Cymru a thrwyddedeion cyflenwi dŵr Cymru, ei bod yn angenrheidiol ac yn fuddiol, er budd diogelwch gwladol ac at ddiben lliniaru effeithiau unrhyw argyfwng sifil, roi cyfarwyddiadau iddynt o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
Mae’r un peth yn berthnasol i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth Lloegr a thrwyddedeion cyflenwi dŵr Lloegr.
Ymhlith pethau eraill, cyfarwyddir ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth a thrwyddedeion cyflenwi dŵr i wneud y canlynol:
§ gwneud, parhau i adolygu, a diwygio cynlluniau i sicrhau, yn ystod unrhyw argyfwng sifil neu ddigwyddiad sy’n bygwth diogelwch gwladol, fod swyddogaethau cyflenwi dŵr a charthffosiaeth yn parhau i gael eu harfer,
§ cymryd camau i sicrhau bod ganddynt y gallu, y capasiti a’r cyfleusterau sydd eu hangen i roi’r cynlluniau hynny ar waith,
§ nodi ac asesu risgiau i ddarpariaeth swyddogaethau cyflenwi dŵr a charthffosiaeth, a rhoi mesurau ar waith i osgoi neu i liniaru’r risgiau hynny,
§ profi effeithiolrwydd mesurau, polisïau ac arferion diogelwch i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn briodol i reoli risgiau diogelwch,
§ hysbysu’r awdurdod priodol (h.y. Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol) am unrhyw argyfwng neu ddigwyddiad diogelwch sy’n effeithio ar swyddogaethau cyflenwi dŵr a charthffosiaeth.
Rhiant-Ddeddf: Deddf y Diwydiant Dŵr 1991
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar: 28 Chwefror 2022
Yn dod i rym ar: 01 Mawrth 2022